Pam fod angen dull ysgol gyfan?
Cafodd y pecyn cymorth hwn ei greu er mwyn ymateb i gynnig a gyflwynwyd gan aelodau’r NEU yn y gynhadledd flynyddol. Dechreuodd y gwaith pan ymchwiliwyd i aflonyddu rhywiol mewn ysgolion ar gyfer ein hadroddiad ymchwil, It’s Just Everywhere, yn 2017.
Gwelson ni fod aflonyddu rhywiol yn gyffredin tu hwnt mewn ysgolion. Yn ôl y gwaith ymchwil, roedd dros draean (37 y cant) y myfyrwyr benywaidd mewn ysgolion cymysg wedi profi rhyw fath o aflonyddu rhywiol yn bersonol yn yr ysgol, ac roedd bron i chwarter (24 y cant) o fyfyrwyr benywaidd mewn ysgolion cymysg wedi profi cyffwrdd corfforol digroeso o natur rywiol yn yr ysgol.
Mae gennyn ni ddau boster y gallwch chi’u lawrlwytho am y gwaith ymchwil hwn [ADD LINK].
Ers cyhoeddi ein hadroddiad, mae’r sgwrs am aflonyddu rhywiol wedi datblygu’n arw. Mae #MeToo, mudiad cymdeithasol byd-eang yn erbyn ymosodiadau rhywiol, aflonyddu rhywiol a diwylliant treisio, a hwnnw’n fudiad sy’n tyfu, wedi tynnu sylw cyhoeddus at y rheini sy’n cyflawni ymosodiadau rhywiol – yn enwedig y rheini sydd mewn grym. Ei neges yw:
“Dim mwy”.
Mae rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched. Mae trais a gwahaniaethu yn erbyn menywod a merched hefyd wedi dod yn bwnc amlwg, gyda Laura Bates yn tynnu sylw at ‘rywiaeth bob dydd’; gorymdeithiau’n cael eu cynnal i brotestio yn erbyn ymddygiad rhywiaethol gwleidyddion; marwolaethau Sarah Everard, Sabina Nessa, Nicole Smallman a Bibaa Henry; ac ymgyrchoedd cyhoeddus yn tynnu sylw at aflonyddu ar y stryd. Mae Black Lives Matter ac achos Plentyn Q wedi amlygu natur hiliol a chyffredin rhywiaeth ym mywydau menywod a merched Du, ac rydyn ni’n gwybod bod myfyrwyr a staff LHDT+ ac anabl yn profi aflonyddu rhywiol mewn ffordd wahanol.
Mae digon o dystiolaeth ar gael yn y Deyrnas Unedig bellach i ddangos bod aflonyddu rhywiol yn gyffredin ym mhob ysgol. Does dim angen i unrhyw aelod o staff mewn ysgol brofi bod angen newid pethau. Mae neges Llywodraeth Cymru ac Estyn yn glir: mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn gyffredin iawn ym mywydau disgyblion ifanc a dylai ysgolion fabwysiadu dull gweithredu ataliol a rhagweithiol ysgol gyfan i fynd i’r afael ag ef (Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon - Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru – Estyn). Canfu TUC Cymru fod 46 y cant o weithwyr wedi dweud eu bod wedi dioddef aflonyddu rhywiol yn y gwaith. (Mae bron i hanner gweithwyr Cymru wedi profi aflonyddu rhywiol, yn ôl arolwg newydd | Newyddion ITV Cymru)
Mae’r undeb wedi ymrwymo i roi cyngor i’n haelodau er mwyn eu helpu i ddylanwadu ar y polisïau yn eu hysgolion neu golegau, a hynny wrth roi sylw i faterion sy’n effeithio ar aelodau ond hefyd wrth ddefnyddio addysg i ymateb i’r materion cymdeithasol sy’n effeithio ar bobl ifanc, ar eu gallu i gael addysg, ac ar eu profiad o hynny. Mae’r undeb wedi canolbwyntio ar aflonyddu rhywiol gan mai dyma un o ganlyniadau anghydraddoldeb rhywedd. Gall herio hyn arwain at gynnal sgyrsiau cadarnhaol mewn addysg am rywiaeth a thegwch rhyweddol.
Fel man cychwyn, dylech chi asesu ble mae’ch ysgol chi arni yn y modd y mae’n ymateb i aflonyddu rhywiol ac yn ei atal.
Beth yw dull ysgol gyfan?
Ceir dealltwriaeth dda erbyn hyn bod rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn gyffredin iawn mewn ysgolion. Er mwyn i newid ystyrlon ddigwydd, mae tystiolaeth o adroddiadau ac astudiaethau’n dangos bod angen dull ysgol gyfan o fynd ati i atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol.
Mae angen i’r dull hwn fynd i’r afael ag ymddygiadau unigolion ac mae angen iddo newid diwylliant yr ysgol. Mae hynny’n arwain at y cwestiwn: ‘Beth yn union yw dull ysgol gyfan o atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol, a sut rydyn ni’n rhoi hwnnw ar waith?’
Mae’r ddogfen hon yn dangos sut i gynllunio dull o weithio drwy’r ysgol gyfan, ac mae’n ei rannu’n bump elfen allweddol:
- Arweinyddiaeth
- Staff
- Myfyrwyr
- Cwricwlwm
- Cymuned
Oddi mewn i’r rhain, dylid ystyried pum llinyn hollbwysig:
- Cerrig sylfaen
- Cynhwysiant
- Cysylltiadau rhwng pobl
- Cnoi cil
- Cynrychioli
Mae’n cymryd amser i newid diwylliant. Rhywbeth a fydd yn digwydd yn raddol, yn hytrach na dros nos, yw hyn. Mae angen blynyddoedd i bethau newid, a mwy o lawer na thymor neu flwyddyn ysgol. Mae pecyn cymorth yr NEU yn eich galluogi i ddewis y camau cyntaf mwyaf defnyddiol i’w cymryd yn eich ysgol chi. Mae hefyd yn eich galluogi i gynllunio at y tymor hwy.
Bydd pob ysgol yn dechrau o fan cychwyn gwahanol, ac rydyn ni’n eich cynghori i drafod a chnoi cil fel grŵp o staff i benderfynu ar y camau cyntaf neu’r camau nesaf, yn dibynnu ar eich cyd-destun a natur eich cymuned chi. Mae’r pecyn cymorth hwn wedi’i greu er mwyn i chi a’ch cydweithwyr ddewis beth sy’n ddefnyddiol ac addasu’r cynnwys, cyn dewis a dethol yr elfennau a’r dulliau gweithio rydych chi am eu defnyddio.
Pum thema bwysig
Gall fod sawl ffurf i ddull ysgol gyfan o weithio.
Arweinyddiaeth
Mae angen i’r ymrwymiad fod yn glir ac yn weladwy. Mae angen gweld y newid yn digwydd ar y brig. Bydd arweinwyr a llywodraethwyr yr ysgol yn ymrwymo i gyflwyno dull ysgol gyfan o atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol. Byddan nhw’n arwain drwy esiampl, ac yn dangos pwysigrwydd y mater hwn, gan gysylltu holl rannau’r dull ysgol gyfan o weithio â’i gilydd a rhoi cyfleoedd i’r staff gyflwyno’r newid. Dylai arweinwyr hefyd ysgwyddo cyfrifoldeb dros seilwaith eu hysgolion. Dylai hyn gynnwys y polisi diogelu, y polisi ymddygiad, a’r polisi ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau, ynghyd â sicrhau dull cynhwysol o ymdrin â’r mater hwn. Nid yw cydnabod bod rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn digwydd yn eich ysgol yn adlewyrchiad o’r ysgol. Yn hytrach, mae’n adlewyrchiad o gymdeithas gyfan. Mae Ofsted yn ei gwneud hi’n ofynnol i ysgolion adrodd am sut maen nhw’n mynd i’r afael â rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol. Mae’r pecyn cymorth hwn yn helpu arweinwyr i wneud hyn.
- A oes gennych chi bolisi ar gyfer aflonyddu rhywiol?
- A yw’ch prosesau ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn gynhwysol ac yn cefnogi staff a myfyrwyr?
- A yw’r staff wedi cael eu hyfforddi sut i ganfod digwyddiadau, sut i roi gwybod amdanyn nhw, a sut i gefnogi dioddefwyr?
Staff
Y staff yw’r rhai sy’n creu diwylliant yr ysgol a rhaid eu cefnogi nhw, nid yn unig drwy eu hannog, ond hefyd drwy roi’r amser, y sgiliau a’r gallu iddyn nhw gnoi cil am ymddygiadau, addysgu a’r cwricwlwm. Mae angen polisïau hefyd sy’n rhoi arweiniad i’r staff ynghylch sut y dylen nhw drin ei gilydd, fel polisïau ar gyfer ymddygiad staff a sut i roi gwybod am aflonyddu. Bydd y staff yn rhoi patrwm i’r myfyrwyr ei efelychu. Mae angen iddyn nhw gael eu galluogi a’u cefnogi i greu diwylliannau cadarnhaol drwy gael hyfforddiant, ac mae angen iddyn nhw gael amser i gnoi cil am bethau.
- A allech chi greu pwyllgor cydraddoldeb?
- Sut gall y staff ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol a chydweithio?
- A allwch chi helpu’r myfyrwyr drwy greu gofodau diogel iddyn nhw sgwrsio?
Cwricwlwm
Dylai holl elfennau’r cwricwlwm, o wyddoniaeth a hanes i gelf, drama ac addysg gorfforol, ganfod stereoteipiau rhyweddol niweidiol, rhoi sylw i lwyddiannau a chyfraniadau menywod, a hybu perthnasau iach. Dylai addysg cyd- berthynas a rhyw gael ei chynllunio drwy ymgynghori a’r myfyrwyr a thrwy roi sylw’n benodol i gydsyniad, perthnasau sy’n dangos parch, stereoteipiau rhyweddol, trais yn erbyn menywod a merched, ac ystyr cydsyniad ac ymosodiadau rhywiol.
- A yw’r holl elfennau arbenigol mewn addysg gorfforol ar gael i’r merched a’r bechgyn?
- A yw’ch gwersi’n rhoi sylw i fenywod sy’n batrymau i’w hefelychu?
- A oes menywod sy’n batrymau i’w hefelychu i’w gweld yn eich ystafell ddosbarth?
Myfyrwyr
Mae profiadau’r myfyrwyr eu hunain yn rhan greiddiol o ddull yr ysgol o atal ac ymateb i rywiaeth ac aflonyddu rhywiol, a dylid defnyddio syniadau’r myfyrwyr er mwyn newid pethau. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i drefnu pethau mewn grwpiau ffeministaidd/ cydraddoldeb. Gall myfyrwyr rannu’u barn mewn gofodau dysgu diogel, a byddan nhw’n cael eu hannog i wella’u dealltwriaeth ac i newid eu hymddygiadau gan eu bod nhw’n sylweddoli fod stereoteipiau rhyweddol yn eu niweidio nhw, eu ffrindiau a’u cyfoedion.
- A allwch chi annog y myfyrwyr i greu grŵp i fyfyrwyr?
- Sut mae clywed lleisiau’r myfyrwyr?
- A all y myfyrwyr roi hyfforddiant i’r staff?
Cymuned
Dylai teuluoedd a gofalwyr gael negeseuon clir gan yr ysgol bod rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn niweidiol ac y bydd hyn yn cael ei herio. Gall yr ysgol esbonio pam fod atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn bwysig ac o fudd i’r holl fyfyrwyr a’u llwyddiant yn yr ysgol. Dylai rhieni a gofalwyr gael gwybodaeth a negeseuon yn eu hatgoffa â phwy y dylen nhw gysylltu os ydyn nhw’n pryderu am rywbeth sydd wedi digwydd i’w plentyn. Gan fod rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol wedi’u gwreiddio mewn cymdeithas, bydd angen addysgu a dangos i gymunedau ein hysgolion sut gallan nhw gefnogi’u plant i fyw heb rywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn eu cartrefi a’u hysgolion.
- A allech chi roi hyfforddiant ar gyfer ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol? Darllenwch ein hawgrymiadau gwych
- Sut gallech chi rannu’r pecyn cymorth â rhieni?
- A allech chi rannu’ch gwaith mewn cylchlythyr i rieni?
Pum llinyn hollbwysig
Ym mhob elfen, dylai fod pum llinyn hollbwysig:
Cerrig sylfaen
Boed hynny’n ymwneud â pholisi gwisg ysgol, rhoi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol, neu’r gallu i gael cyngor gyrfaoedd nad yw’n seiliedig ar stereoteipiau, mae angen i seilwaith yr ysgol fod yn rhan o’r newid i atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol. Dyna beth rydyn ni’n ei olygu wrth sôn am gerrig sylfaen.
Wrth ddilyn dull ysgol gyfan o atal a mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol, rhaid i hynny fod yng nghyd-destun ehangach y seilwaith ar gyfer diogelu, ymddygiad, polisïau’r staff, a mwy. Mae gennyn ni restr wirio ar gyfer y llinyn Cerrig sylfaen ar ein gwefan. Os ewch chi i wefan yr NEU, gallwch chi edrych yn fanylach ar hyn, gan gynnwys edrych ar bolisïau ymddygiad, polisïau gwisg ysgol, ac astudiaethau achos.
Cynhwysiant
Mae rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol yn eu hamlygu’u hunain mewn gwahanol ffyrdd i wahanol grwpiau o staff a phobl ifanc, fel menywod Du, menywod o wahanol oedran, a staff lesbiaidd neu draws. Bydd rhai grwpiau o staff yn wynebu rhwystrau a phrofiadau negyddol niferus, a gellir disgrifio hyn fel “gwahaniaethu lluosog”. Mae hyn yn golygu ei bod yn fwy anodd i rai aelodau o staff roi gwybod am ddigwyddiadau neu chwilio am gymorth, neu’n fwy anodd iddyn nhw fod yn hyderus y bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth.
I’w gwneud hi’n haws i bobl roi gwybod am ddigwyddiadau, mae’r dystiolaeth yn dangos y bydd yr holl staff yn cael budd drwy fynd ati’n rheolaidd ac yn gadarnhaol i annog pobl i roi gwybod am ddigwyddiadau, a dylid egluro bod hynny’n arwydd o ddiwylliant iach yn y gweithle. Cofiwch ystyried demograffeg ehangach eich ysgol a’ch cymuned wrth ddatblygu eich polisïau i atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol. Serch hynny, dylai ysgolion deimlo’n hyderus yn cyflwyno ac
yn modelu cyfres o werthoedd a allai fod yn wahanol i brofiad y myfyrwyr y tu allan i’r ysgol (“gwerthoedd ein hysgol ni”). Mae’n bwysig hefyd mynd ati i herio stereoteipiau negyddol neu gul y bydd myfyrwyr yn dod ar eu traws ar-lein.
Er enghraifft:
- Mae cysylltiad agos rhwng rhywiaeth a homoffobia, ac maen nhw’n atgyfnerthu ei gilydd. Rhaid i’ch dull ysgol gyfan o weithio, felly, herio rhywiaeth a herio rhagfarn yn erbyn pobl LHDT+.
- Bydd gwahanol grwpiau o ferched Du yn profi gwahanol ragdybiaethau am eu cyfoedion a’u dyheadau. Gan hynny, mae angen i gynlluniau i herio rhywiaeth roi sylw i’w pryderon a’u hargymhellion nhw, ac mae angen i’ch gwaith i atal rhywiaeth ystyried anghenion merched yn eich lleoliad chi.
- Mae disgyblion LHDT+ ac anabl yn fwy tebygol o brofi bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig na disgyblion nad ydyn nhw’n LHDT+ ac yn anabl (60 y cant o’i gymharu â 43 y cant). – Stonewall.
- Mae 40 y cant o Sipsiwn a Theithwyr wedi cael eu bwlio, gyda chanran uwch o ferched (58 y cant) yn dweud eu bod wedi cael eu bwlio na bechgyn (26 y cant) – The Traveller Movement.
Mae gennyn ni fwy o astudiaethau achos am groestoriadedd a chynhwysiant ar ein gwefan.
Cysylltiadau rhwng pobl
Mae’r iaith y byddwn ni’n ei defnyddio a sut byddwn ni’n ymddwyn at ein gilydd fel gweithwyr proffesiynol, a sut bydd myfyrwyr yn ymddwyn at ei gilydd, yn rhan greiddiol o ddiwylliant ysgol.
“Roedden ni mewn cyflwyniad i’r staff ac roedd y Pennaeth yn siarad. Pan orffennodd, dywedodd, ‘Nesaf, mae’n bryd i’r merched gael tro’, gan gyfeirio at gyflwyniad gan nifer o aelodau ifanc o’r staff benywaidd.” – Aelod, Gorllewin Canolbarth, Lloegr
Mae’r iaith y byddwn ni’n ei defnyddio wrth ymwneud â phobl o ddydd i ddydd, ein polisïau, a’r ffordd y bydd yr ysgol yn cyfathrebu yn hollbwysig er mwyn dangos ymrwymiad i atal hiliaeth ac aflonyddu rhywiol. Dros amser, byddai’n syniad da adolygu adnoddau eich cwricwlwm er mwyn canfod cynnwys sy’n hyrwyddo rhywiaeth. (Gweler yr adran am y cwricwlwm ar ein gwefan.)
Wrth fwrw golwg ar yr iaith a ddefnyddir, dylid edrych ar ddogfennau ffurfiol, contractau, polisïau a llythyrau. Mae’n hollbwysig bod y staff yn rhoi esiampl i’r myfyrwyr ac yn dangos ymddygiad sy’n ceisio atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol, gan hybu cydraddoldeb a pharch rhwng dynion a menywod.
Mae gennyn ni restr wirio ar gyfer y llinyn ‘Cysylltiadau rhwng pobl’ ar ein gwefan.
Cnoi cil
Sut mae creu amser a gofodau diogel i staff a myfyrwyr gnoi cil am eu credoau a’u hymddygiadau eu hunain?
Mae’r llinyn sy’n ymwneud â chnoi cil yn golygu sicrhau bod gan bawb amser a gofod i feddwl am sut gallan nhw gyfrannu at gymuned sy’n hybu gwerthoedd cadarnhaol. Boed yn aelod o staff neu’n unigolyn ifanc, byddwn ni i gyd yn dod ar draws stereoteipiau am rywedd a diwylliant sy’n effeithio ar sut byddwn ni’n gweithredu ac ar y pethau y byddwn ni’n eu gwneud. Yn rhan o’r ddeialog fewnol hon, bydd rhai disgwyliadau a normau cymdeithasol rhyweddol am sut bydd rhyweddau gwahanol yn ymddwyn a sut byddwn ni’n ymddwyn fel cyrff rhyweddol.
Yn aml, gall meddwl am anghydraddoldeb rhywedd ac atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol arwain at gnoi cil pwysig am yr hyn sy’n dylanwadu arnon ni ac o ble cawson ni ein syniadau am ddynion, menywod a rhywedd. Bydd gwahanol athrawon wedi cael cyfleoedd gwahanol i ddatblygu’n broffesiynol ym maes rhywedd ac addysg. Mae angen i ddull ysgol gyfan gynnwys gofod i gnoi cil yn broffesiynol a gofod i gyd-gynllunio, er mwyn i ni allu meddwl am ein cymhellion personol a’n profiadau personol ac ymrwymo i wrando ar gydweithwyr a dysgu ganddyn nhw.
Cynrychioli
A all staff, teuluoedd a myfyrwyr weld neges glir drwy’r holl ysgol sy’n datgan nad yw aflonyddu rhywiol yn dderbyniol? Mae’r llinyn Cynrychioli yn ymwneud â sut mae’r ysgol yn hyrwyddo ac yn arddangos ei hethos, a beth mae hi’n ei ddweud, yn ei ddathlu ac yn rhoi llwyfan iddo.
Waeth pa mor dda yw polisïau’r ysgol neu gynlluniau gwersi, os nad yw’r staff a’r myfyrwyr yn ymwybodol o’r rheini, neu’n cael negeseuon amdanyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael yr effaith iawn. Mae hyn yn golygu bod popeth y bydd pawb yn yr ysgol yn ei weld bob dydd yn rhoi negeseuon i bobl am werthoedd a chredoau’r ysgol – o ddatganiadau clir gan yr ysgol bod aflonyddu rhywiol yn annerbyniol i bobl amrywiol i’w hefelychu mewn gwyddoniaeth. Gellir adlewyrchu’r newidiadau rydych chi’n eu gwneud yn y mannau hynny.
Bydd ysgolion ar eu hennill o ddangos yn glir mai anghydraddoldeb rhywedd sydd wrth wraidd aflonyddu rhywiol. Mae angen neges glir am atal rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol, gan ddatgan bod y gwaith hwnnw’n gyfrifoldeb ar bawb yn yr ysgol.
Mae gennyn ni restr wirio ar gyfer y llinyn Cynrychioli ein gwefan.